P-04-393 Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y cynlluniau ar gyfer
ffordd osgoi heibio i bentrefi Pant a Llanymynech, sydd ar y ffin
rhwng Cymru a Lloegr. Bydd 15,000 o geir a lorïau yn gyrru
trwy’r ddau bentref bob dydd, a bydd y nifer hwn yn siŵr
o gynyddu unwaith y rhoddir caniatâd i’r ffermydd
gwynt. Rydym yn galw ar y llywodraeth yn awr i fwrw ymlaen
â’i chynlluniau, neu i ddechrau cynnal trafodaethau am
y ffordd osgoi o leiaf, a chynnal dadl lawn yn ei chylch, gan
wrando ar lais ein cymuned ynghylch ein hanghenion a sut y
mae’r ffordd hon yn effeithio arnom ni ac ar ein bywydau. O
wneud hyn, gobeithio y bydd y llywodraeth yn Lloegr yn cymryd sylw
o’r drafodaeth ac yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar eu
hochr hwy i’r ffin. Ein dymuniad yw y bydd dadl lawn ac
agored yn cael ei chynnal ar yr angen am ffordd osgoi i bentrefi
Pant a Llanymynech, a fydd wedyn yn arwain at adeiladu’r
ffordd osgoi pan fydd arian ar gael.
Rydym
wedi cael llond bol ar y sŵn, y llygredd, a’r ffaith na
allwn gerdded gyda’n plant i’r ysgol, cerdded i’r
siopau, na mynd a’n cŵn am dro ar hyd y ffordd. Ni fydd
gwelliannau fel lledu’r ffordd yn gweithio yma. Cynlluniwyd y
ffordd i ddechrau fel ffordd un lôn ar gyfer ceffylau a
cherti. Mae llawer o’r tai ar y ddwy ochr yn agos iawn at y
ffordd, ac mae nifer o lonydd yn ymuno â’r A483, sydd
hefyd yn gwneud y ffordd yn anaddas i’w gwella. Teimlwn mai
adeiladu ffordd osgoi yw’r unig ateb, a throi’r ffordd
o Lynclys (sy’n hynod o beryglus) o gylch pentrefi Pant a
Llanymynech a’i chysylltu â’r ffordd osgoi newydd
ger Llandysilio. Hon yw’r brif gefnffordd rhwng Manceinion ac
Abertawe, ac nid yw’n addas i’w diben. Mae llawer o
Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad o blaid ein hymgyrch
ac rydym yn benderfynol o gyflawni ein hamcan, a gweld dadl lawn yn
cael ei chynnal ar y mater hwn yn y Cynulliad.
Cyflwynwyd
y ddeiseb gan: Duncan
Borthwick
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Mai 2012
Nifer y llofnodion: 84